Staff

'Rydym yn elwa o'r ffaith bod ein staff, artistiaid llaw-rhydd a gwirfoddolwyr a phrofiad o gefndiroedd amrywiol, megis amgueddfeydd, orielau, ysgolion, y gymuned a'r awyr agored. Mae'r cymwysterau ffurfiol sydd gennym yn cynnwys Addysg, Celfyddyd, Ffotograffiaeth, Cyfathrebu, Marchnata, Arwain timau, ac Astudiaethau'r Amgylchfyd. 'Rydym hefyd yn dod ag arbenigwyr i mewn ar gyfer agweddau penodol o'n gwaith er mwyn cyfoethogi'r elfennau treftadol a chreadigol o'n prosiectau.

Mae rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd yn cael ei oruchwylio gan ein Rheolwr Helen Walker Brown. Fel artist ac addysgwr, mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad rheoli prosiectau yn ymwneud â'r celfyddydau, treftadaeth ag addysg fel ymarferydd llawrydd a thrwy swyddi cyflogedig gyda Llywodraeth Leol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae ganddi gymwysterau hyfforddi ac arwain timau cydnabyddedig ac mae'n hollol gyfarwydd  â gofynion GDPR, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Diogelu. Mae gweddill ein hymarferwyr hynod alluog a phrofiadol yn gweithio ar delerau llawrydd yn ôl gofynion ein prosiectau.

Mae Deilen fel cwmni nid-er-elw yn cael ei oruchwylio gan 4 cyfarwyddwr gwirfoddol, annibynnol, ac  wrthi'n dod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol Corfforedig (CIC).

Deilen benefits from our staff, freelance artists and volunteers having a wealth of experience in both museums, galleries, schools, communities and the outdoor environment. Areas of formal qualification include Education, Art, Photography, Communications, Marketing, Team Leadership and Environmental Studies. We also collaborate with local experts on a project by project basis, enabling us to draw on a wide range of creative and heritage skills and knowledge to further enrich our projects.

Day to day running of the company is overseen by our Manager, Helen Walker Brown. As an artist and educationalist, she has over 30 years experience related to the arts, heritage, education and project management as both a freelancer and through salaried positions with Local Government and the National Lottery Heritage Fund. She holds accredited training qualifications and is fully up to date with GDPR, Equality, Diversity and Inclusion and Safeguarding standards. The remainder of our highly talented and experienced practitioners work on a freelance basis to meet the needs of our individual projects.

Deilen as a not for profit company is overseen by 4 independent volunteer directors, and is currently in the process of becoming an incorporated Community Interest Company (CIC).