Cefndir:

 a Mae gan Helen Walker Brown brofiad trefnu ac arwain prosiectau creadigol ers nifer o flynyddoedd, ynghyd a sgiliau celfyddydol cryf mewn cyfryngau 2D a 3D a cherddoriaeth. Tydi hi ddim yn cyfyngu ei hun i un ffordd o weithio, gan bod well ganddi ymateb i bob cyfle mewn ffordd unigryw, addas. 

Mae ei phrofiad hyfforddi'n cynnwys datblygu a chyflwyno cyrsiau oedolion a phlant, cynllunio a chynnal gweithdai mewn person ac o bell, trefnu a chyflwyno digwyddiadau cyhoeddus, ysgrifennu ceisiadau grant a rheoli prosiectau creadigol.

Bu Helen yn gweithio fel Swyddog Dysgu amgueddfa ac oriel i Cyngor Gwynedd, fel Swyddog Dysgu Awdurdod Addysg a hefyd fel artist a dylunydd llaw-rhydd. Mae hi wedi cyd-weithio hefo orielau ac amgueddfeydd, ysgolion, cerddorwyr, artistiaid, cynghorau lleol, Llywodraeth Cymru, Amdanom Ni  a'r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae gan Helen MA mewn Addysg o Brifysgol Bangor a BA Anrhydedd Celfyddyd, Ffilm a Ffotograffiaeth o Brifysgol Derby. Bu hi'n dilyn cwrs Sylfaenol Celf yng Ngholeg Menai ac mae hi'n athrawes gymwysedig gyda Tystysgrif Addysg o Brifysgol Bangor. 

Mae gan Helen gymwysterau Cerdd Gradd 6 mewn Theori Cerdd a Piano, ac yn canu a chyfansoddi. 

Mae ganddi  Dystysgrif Arweinyddiaeth Timau o'r 'Chartered Management Institute' ynghyd a Thystysgrif DBS gyfredol.



canolfan addysg y bont - cyngor ynys mon

Dylunydd brandio'r ysgol newydd a'r cerflun derw 2M sy'n sefyll o flaen y datblygiad £10 miliwn yma, a ariannwyd gan Cyngor Ynys Mon a Llywodraeth Cymru. Mae'r cerflun yn cyfuno'r syniad o 'bont' yn enw'r ysgol a hefyd yn cynrychioli 2 o blant yn cyd-chwarae. Roedd yr agweddau yma'r bwysig iawn o fewn y briff.

arddangosfa ffotograffiaeth lle-chi

Tiwtor a threfnydd Ffotograffiaeth i'r Llysgenhadon  Ifanc - Prosiect LleChi Cyngor Gwynedd. Ariannwyd y prosiect gan Llywodraeth Cymru 2021

PROSIECT DETS LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU

Artist & arweinydd  prosiect 'Cychod Llechi'r Afon Dwyryd. Dylunydd y plac llechen fu'n cyfuno lluniau plant Ysgol Borth Y Gest 2021 yn dilyn cyfres o weithdai hefo'r disgyblion yn ymchwilio'r hanes.

ARDDANGOSFA BODFA CONTINUUM

Gwaith gosod 'Tu allan Tu mewn' yn troi 'stafell yn yr adeilad yn goedwig, hefo hadau a choed yn tyfu ynddi 2022. Mae'r darn wedi'i ybrydoli gan natur yn ail-gydio mewn llefydd mae pobl eisoes wedi gadael.

gorymdaith dydd gwyl dewi bangor

Trefnydd  gorymdaith Dydd Gwyl Dewi Bangor 2022 yn cynnwys band Samba cerddwyr stiltiau a llusernau cario. Yn gyfrifol am yr holl waith cydlynu a chyfathrebu hefo'r cyrff swyddogol perthnasol.