Trwy gyd-weithio hefo ymarferwyr creadigol lleol, mae ein tîm wedi rhedeg gweithdai, cyrsiau cymunedol a digwyddiadau ers nifer o flynyddoedd. 'Rydym yn helpu pobl o bob gallu, cefndir ac oedran i wireddu eu potensial creadigol tra'n ymgysylltu hefo'u treftadaeth leol a'r amgylchfyd.
Mae ein gwaith wedi cynnwys celfyddyd gyhoeddus, gosodiadau celfyddydol, ffotograffiaeth, ffilmiau byr, perfformiadau a digwyddiadau.
Ariennir rhan helaeth o'n gwaith trwy grantiau a chomisiynau, sy'n golygu bod y mwyafrif o'n gwasanaethau ar gael yn rhad ac am ddim i'n defnyddwyr. Cysylltwch i drafod sut allwn ni cydweithio. Dilynwch ni ar Facebook @celfdeilen Ein Cefndir : Ein Polisiau
© Deilen 2022