Cefndir:

 Mae'r tîm yn brofiadol iawn wrth arwain prosiectau creadigol ers nifer o flynyddoedd, ynghyd a chynnig sgiliau celfyddydol cryf mewn cyfryngau 2D, 3D a cherddoriaeth. Nid ydym yn cyfyngu ein hunain un i un ffordd o weithio, gan fod gwell i ni ymateb i bob cyfle mewn ffordd unigryw, addas trwy gyd weithio'n agos hefo'n partneriaid. 

Mae ein profiad yn cynnwys datblygu a chyflwyno cyrsiau a phrofiadau i oedolion a phlant trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. 'Rydym hefyd wedi cynllunio a chynnal gweithdai mewn person ac o bell, ac wedi trefnu a chyflwyno digwyddiadau cyhoeddus a rheoli ystod o brosiectau treftadaeth a chreadigol. 


Mae gan ein staff a gwirfoddolwyr profiad o gefndiroedd amrywiol, megis amgueddfeydd, orielau, ysgolion, y gymuned a'r awyr agored. Mae'r cymwysterau ffurfiol sydd gennym yn cynnwys Addysg, Celfyddyd, Ffotograffiaeth, Cyfathrebu, Marchnata, Arwain timau, ac Astudiaethau'r Amgylchfyd.

Pryd bynnag y gallwn, 'rydym yn cyflwyno prosiectau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim sydd wedi'u hariannu gan grantiau neu ffynonellau allanol sy'n blaenoriaethu'r gymuned. Hyd heddiw, mae ein prosiectau wedi'u hariannu drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae unrhyw elw'n cael ei ail-fuddsoddi er budd prosiectau yn y dyfodol. 'Rydym wedi yswirio'n briodol, ac mae staff sy'n gweithio hefo'r cyhoedd hefo DBS cyfredol. Cysylltwch : Polisiau

rhai o'n prosiectau diweddar

prosiect ymwybyddiaeth ecolegol 'dianc i'r gwyllt'

Gweithgaredd cyd-greu mewn cydweithrediad ag Oriel Storiel, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol y Garnedd, Bangor. Wedi'i ariannu gan Llywodraeth Cymru - 2023

arddangosfa llysgenhadon ifanc lle-chi

Bu Deilen yn darparu tiwtor ffotograffiaeth i redeg cyfres o weithdai arbenigol, ynghyd a threfnu'r arddangosfa ffotograffiaeth i'r prosiect Llysgenhadon Ifanc - LleChi Cyngor Gwynedd. Ariannwyd y prosiect yma gan Lywodraeth Cymru  fel rhan o'u hymgyrch 'Gaeaf Llawn Lles' i fynd a gweithgareddau treftadaeth a chelf i'r gymuned - 2021

PROSIECT DETS LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU

Arweinwyr prosiect 'Cychod Llechi'r Afon Dwyryd. Bu'n artist yn cyd-ddylunio'r plac llechen fu'n cyfuno lluniau plant Ysgol Borth Y Gest ym 2021. Roedd y gwaith yma'n dilyn cyfres o weithdai hefo'r disgyblion yn ymchwilio hanes leol. Ysbrydolwyd yr ymchwil yma gan glipiau sain o archif y Llyfrgell Genedloaethol.

ARDDANGOSFA BODFA CONTINUUM

Rhan o arddangosfa gydweithredol raddfa fawr ar Ynys Môn. Gwaith gosod 'Tu allan Tu mewn' yn troi 'stafell yn yr adeilad yn goedwig hefo hadau a choed yn tyfu ynddi - 2022. Mae'r gosodiad wedi'i ysbrydoli gan natur yn ail-gydio mewn llefydd mae pobl eisoes wedi gadael, a hefyd yn codi cwestiynau dros ein hawliau i adeiladu o fewn a dros y tirwedd.

gorymdaith dydd gwyl dewi bangor

Trefnwyr  gorymdaith Dydd Gwyl Dewi Bangor 2022. Bu'r gorymdaith yn cynnwys cerfluniau symudol, band samba cerddwyr stiltiau a llusernau cario hefo 120 o bobl yn ymuno  ynddi. 'Roedd ein staff yn gyfrifol am yr holl waith cydlynu a chyfathrebu hefo'r artistiaid a'r rhandeiliaid.